This site is secured using RapidSSL

Events

An image for the event.

Iphigenia Yn Sblot

14 September 2024

Iphigenia Yn Sblot

Location: Awel-y-Mor Community Centre

Pricing: £12.00 - £15.00

Related link: https://awenboxoffice.com/whats-on/iphigenia-yn-sblot-aym/

Iphigenia Yn Sblot

Performed in Welsh. Captions in English will be available at every performance.

Iphigenia yn Sblot – Theatr y Sherman
Gan Gary Owen
Cynhyrchiad newydd wedi’i gyfarwyddo gan Alice Eklund.

Gadewch i Effie eich tywys chi trwy strydoedd Caerdydd heddiw. Camwch i’w byd. Cymerwch olwg ar sut rydyn ni’n byw, drwy ei llygaid hi.

Mae bron i ddegawd ers i Iphigenia in Splott, drama ddirdynnol Gary Owen, ryfeddu’r byd: gan swyno cynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd, ennill gwobrau a dod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol.

Yn fwy perthnasol nag erioed, mae un o ddramâu pwysicaf hanes theatr Cymru yn dychwelyd yn 2024, gyda chymaint i’w ddweud am fywyd yng Nghymru heddiw. Daw cynhyrchiad newydd sbon pwerus Alice Eklund o’r addasiad newydd Cymraeg yma a’r clasur tanbaid yn fyw unwaith eto. Yn llawn emosiwn amrwd, empathi, tosturi a chalon, mae Iphigenia yn Sblot yn ysgytwad. Dyma’r ddrama sydd ei hangen ar bob un ohonom ar hyn o bryd.

Perfformiad yn y Gymraeg. Bydd capsiynau Saesneg ar gael ym mhob perfformiad.

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif a golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa.

Rhybudd manwl Mae’r cynhyrchiad hwn yn cynnwys iaith gref, cyfeiriadau rhywiol, themâu sensitif gan gynnwys galar a cholled newydd-anedig, yn ogystal â golygfeydd a allai beri gofid i rai aelodau o’r gynulleidfa.

About the location: Wellfield Ave, Porthcawl CF36 5TP 07796 644612

View Map

When is it Running?

14 September, 2024  From 19:30

back to previous

©Welcome To Porthcawl 
 email: enquiries@welcometoporthcawl.co.uk
Warning!!! Warning!!! Cookies are disabled Warning!!! Warning!!!